Mae Cysylltu Bywydau ar gyfer oedolion sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol ac a fyddai’n elwa o fyw mewn amgylchedd cartref, mae ychydig fel gofal maeth – ond i oedolion.
Mae Ategi yn paru’r person sydd angen cymorth yn ofalus ag un o’n gofalwyr Cysylltu Bywydau sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig. Fel gofalwr Cysylltu Bywydau byddech yn rhannu eich cartref a’ch teulu gyda nhw, gan helpu’r oedolyn rydych yn ei gefnogi i ddatblygu ei sgiliau, gweithio tuag at ei nodau a’i gefnogi i fod yn fwy annibynnol. Eu cefnogi i fyw eu bywyd, eu ffordd. Fel gofalwr Cysylltu Bywydau rydych chi'n cyrraedd y gwaith o gartref ac yn mwynhau gyrfa sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.